Anonymous: Dinbych-y-Pysgod

Rwyf o hyd yn cysylltu Dinbych y Pysgod gyda ffrindiau. O rhannu pryd o fwyd yn un o’r bwytai ar ymyl y bae i fwynhau noson allan yn y dref, mae ffrindiau o’r dyddiau ysgol yn bresennol yn yr holl atgofion yma.
Cofiaf y rhannu teithiau i Dinbych y Pysgod ac yn ôl yn hynod o eglur. Dyma oedd y cyfod i ddal i fyny, i drin a trafod materion mawr y dydd, a’r cyfle i hel y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau bywyd y gweddill! Ar ôl cyrraedd Dinbych y Pysgod mi fyddau’r orymdaith o’r maes parcio i dy ffrind yn dechrau. Dwi’n sicr i ni dderbyn sawl edrychiad syn wrth i ni gerdded o’r maes parcio, a thrwy ganol y dref gyda’n holl deunyddiau cysgu at dy ein ffrind. Yna byddau’r siarad, y storio, a’r tynnu coes yn ail ddechrau wrth i ni, y criw ohonom, cael ein ail ymuno ynghyd.
Yn dilyn ymlaen o hyn, ac wrth iddi nosi dros Dinbych y Pysgod, mi fyddem yn symud ymlaen i amryw dafarndai’r dref er mwyn ymlacio a mwynhau ein hun yn llif ein siarad, a llif y diod, a hynny hyd oriau man y bore. Yna’r dychwelyd i gysgu ar lawr caled, ond hynny’n digon derbyniol i ni yn sgil pleser ail ymuno a ffrindiau da.
Y diwrnod dilynol mi fyddent gan amlaf yn gorffen ein ymweliad a Dinbych y Pysgod, a’r ymgasglu o ffrindiau, gyda pryd o fwyd yn un o gaffis neu bwytai y dref, a mwynhau y tywydd a’n cwmni cyn y daith adref. Taith digon gymysg o rhan teimladau fyddau’r daith yna yn ol o Dinbych y Pysgod pob tro. Mi fyddau yna rhyw deimlad o siom wrth wybod y byddau cyn amser yn mynd heibio cyn ein ail ymuno fel criw, ond eto rhyw hapusrwydd o’r cwrdd i fyny, a ail brofi melysder ein cwmni llawn a llawen.

Advertisements